Text Box: Ken Skates AC
 Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

18 Medi 2015

Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad: cais am wybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Medi

 

Annwyl Weinidog

Diolch i chi am ddod i'r sesiwn dystiolaeth ar 16 Medi, 2015.

Yn ystod y cyfarfod, gwnaethoch gytuno i roi i'r Pwyllgor gopi o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas ag adolygiad Siarter y BBC. Yn ogystal, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn nodi pam fod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn wahanol i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer yr Alban o ran dyletswyddau adrodd ac atebolrwydd y BBC ar ôl adnewyddu'r Siarter, a sut symudodd y trefniant hwn yn gyflym at gytundeb a wnaeth sicrhau mewnbwn cyfartal gan Lywodraeth Cymru yn y broses o adolygu'r Siarter (yn unol â'ch llythyr o 24 Awst 2015).

Gwnaethoch gytuno hefyd i roi rhagor o wybodaeth am y canlynol–

§  Gwaith Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ledled Ewrop ynghylch dulliau amgen o ddenu cyllid ar gyfer y celfyddydau; yn gysylltiedig â hyn, dywedoch y byddech yn gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ddarparu papur briffio ar gyfer Aelodau sy'n ymateb i'r gwaith hwn;

§  manylion yr adroddiad disgwyliedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn sgil ei asesiad cyfredol o effaith cyllid ar gyfer Celfyddydau a Busnes Cymru, a'i berfformiad; 

§  manylion am gapeli ac eglwysi rhestredig gwag / heb eu meddiannu yn ôl  gradd; byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cynnwys manylion am fynwentydd / safleoedd claddu rhestredig;

§  rhagor o wybodaeth am enghraifft Barcelona a nodwyd gennych mewn perthynas â threfniadau ar gyfer delio ag adeiladau rhestredig gwag, gan gynnwys argaeledd pwerau i roi dirwyon;

§  rolau a chyfrifoldebau'r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, y Bwrdd Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru, a Grŵp Treftadaeth Cymru.

 

Yn ogystal â hyn, roedd nifer o faterion na chawsom gyfle i'w trafod gyda chi yn ystod y sesiwn, a gwnaethoch gytuno i ymateb yn ysgrifenedig. Ar y sail hon, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi manylion am–

§  y math o wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyflwr llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, a sut y bydd y wybodaeth hon yn fodd i fesur effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd;

§  yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu "Deddf Llyfrgelloedd i Gymru", a beth allai'r ddeddfwriaeth hon olygu;

§  y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor i hyrwyddo'r ystod o wasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn well;

§  y graddau y mae ymchwil a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar lyfrgelloedd a reolir gan y gymuned wedi effeithio ar sut mae llyfrgelloedd o'r fath yn gweithredu yng Nghymru;

§  y cerdyn llyfrgell Cymru gyfan a gyhoeddwyd ym mis Medi 2015, gan gynnwys pryd y caiff hwn ei gyflwyno a sut y bydd yn cyflawni "gwerth am arian a manteision i economi Cymru". 

Edrychaf ymlaen at eich ymateb.

Yn gywir

Christine Chapman AC

Cadeirydd